Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Hydref 2015
Amser: 09.03 -
10.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3251
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Powell AC (Cadeirydd) Russell George AC Bethan Jenkins AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 135KB) Gweld fel HTML (105KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.
Datganodd Russell George y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo egluro rhai o’r materion a godwyd yng ngeiriad y ddeiseb; ac
· aros am farn y deisebydd ynghylch llythyr gwreiddiol y Gweinidog.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd cyn ymateb i’r Prif Weinidog.
Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gasglu hanes ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn cau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· aros am gyhoeddi Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen; ac
· yn y cyfamser, cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi amserlen ar gyfer yr adolygiad i’r Pwyllgor, ac i ofyn ei farn am alwad yr Athro Trevor Purt am ragor o ganllawiau ar y polisi o ran cyfraniadau cymharol gwasanaethau Iechyd Plant Cymunedol / Pediatreg Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).
Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· holi Byrddau Iechyd sut y gall manteision amser ychwanegol gydag ymgynghorwyr niwrogyhyrol (a nodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn arbennig) gael eu gwireddu ar draws Cymru.
· ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo ystyried y mater fel rhan o’i flaenraglen waith.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· roi rhagor o amser i’r deisebydd roi sylwadau ar y wybodaeth sylweddol a ddarparwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU; a
· gofyn ei barn am y llythyr diweddar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach.
Datganodd Joyce Watson y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae hi yn ymwneud â nifer o grwpiau sydd o blaid y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· aros am sylwadau gan y deisebwyr; a
· chau’r ddeiseb os nad oes sylwadau’n dod i law yn y 6 wythnos nesaf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn am ei sylwadau ar sylwadau Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a oedd, ar y cyfan, yn gefnogol iawn i amcanion y ddeiseb; a
o gofyn a yw wedi bod yn trafod y mater gydag unrhyw weinidogion eraill.
· trosglwyddo’r ohebiaeth a gafwyd i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo fod yn ymwybodol ohoni, a’i hystyried wrth drafod y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru);
· gofyn eto am ymateb gan Groeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru; a
· sicrhau bod y deisebwyr yn ymwybodol y gallant gysylltu ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ac Aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, o gofio bod y Pwyllgor hwnnw’n ystyried y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed o ran adolygu’r system ddeisebau.